Arestio tri mewn cysylltiad â byrgleriaethau o dai.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio tri o bobl mewn cysylltiad â dwy fyrgleriaeth o dai yn ardal Glanaman.
Mae dau ddyn lleol, Alan Daniels, 33 oed o Lôn Pen-Pound, Rhydaman, a Leon Lukins, 39 oed o Gwmgors, wedi eu cyhuddo o fyrgleriaeth. Ymddangosodd y ddau o flaen Llys Ynadon Llanelli ar 7 Tachwedd 2011 a chawsant eu cadw yn y ddalfa.
Mae menyw leol 22 oed wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu gwneud.
“Mae byrgleriaethau o dai yn anghyffredin yn yr ardal hon, ond hoffwn sicrhau’r gymuned bod yr heddlu wedi ymateb yn brydlon er mwyn dod o hyd i’r rhai a oedd yn gyfrifol,” meddai’r Ditectif Arolygydd Steve Cockwell. “Er bod y math hwn o ddigwyddiad yn brin, hoffwn atgoffa pobl o’r angen i sicrhau bod eu cartrefi’n ddiogel bob tro.”
Gall unrhyw un sydd eisiau gwybodaeth bellach am y ffordd orau o ddiogelu’r cartref gysylltu â’r Adran Diogelwch Cymunedol ar 101, neu galwch heibio i’n gwefan www.dyfed-powys.police.uk/cy


