Asiantaethau'n cydweithio i drechu lladrad metel yn Cross Hands
Mae heddweision plismona bro o ardal Cross Hands wedi bod yn gweithio gyda swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin yr wythnos hon ar ymgyrch i dargedu lladrad metel.
Yn ystod yr ymgyrch, stopiwyd a holwyd nifer o bobl gan Heddweision a Swyddogion Gorfodaeth Amgylcheddol.
O ganlyniad, riportiwyd tri unigolyn am fod heb Drwydded Cludo Gwastraff, ac am fod heb Ddogfennaeth Trosglwyddo Gwastraff. Adran Amgylchedd y cyngor fydd yn delio â'r achosion hyn.
Arestiwyd dau unigolyn, un o Benfro ac un o Lanelli, ar yr amheuaeth eu bod wedi dwyn sgrap yn ardal y Tymbl. Mae’r ddau wedi’u cyfweld ac maent ar fechnïaeth yn aros ymholiadau pellach.
"O ganlyniad i'r ymgyrch hon, gweithredwyd gwarantau chwilio ar fferm yn Llannon," dywedodd Ditectif Arolygydd Steve Cockwell. "Ar ôl y chwiliad, atafaelwyd llawer o bolion sgaffald, metelau a phren atodol, a matiau parcio. Cafwyd fod y cyfan wedi'i ddwyn.
"Mae ymgyrchoedd megis yr un yma yn rhan allweddol o'r frwydr barhaol yn erbyn lladrad metel, sydd yn broblem ar draws y wlad. Byddwn yn parhau i gynnal y fath ymgyrchoedd ar y cyd, a hoffwn apelio i unrhyw aelod o'r cyhoedd sydd â gwybodaeth am unrhyw unigolyn a all fod yn ymwneud â dwyn metel sgrap i gysylltu â'r heddlu ar 101."


