Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Heddlu’n ymchwilio i ladrad moduron allfwrdd o Ystâd Cwm Elan

Mae’r heddlu yn Llandrindod yn ymchwilio i ladrad nifer fawr o foduron allfwrdd o gyfleuster storio o fewn Ystâd Cwm Elan, Elan, Rhaeadr.

Roedd yr eitemau tu 30 mlwydd oed, ac aed â nhw rhywbryd rhwng dydd Mercher 16 Tachwedd 1 dydd Gwener 18 Tachwedd.

“Os oedd unrhyw un yn yr ardal ar y dyddiadau hynny ac yn credu eu bod wedi gweld rhywbeth amheus, byddwn yn gwerthfawrogi petaent yn cysylltu â mi er mwyn trafod y mater,” meddai PC Anthea Ponting. “Os oes gan unrhyw un wybodaeth mewn perthynas â’r lladrad hwn, wedi gweld y moduron hyn, â gwybodaeth am eu lleoliad neu unrhyw wybodaeth berthnasol arall, os gwelwch chi’n dda, cysylltwch â mi yng Ngorsaf Heddlu Llandrindod ar 101, neu galwch yr elusen annibynnol Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.”