Swyddogion plismona’r ffyrdd yn targedu gweithgarwch troseddol yn Sir Gaerfyrddin
Yn ddiweddar, cynhaliodd Timoedd Ymateb Arfog a Phlismona’r Ffyrdd Sir Gaerfyrddin benwythnos gweithredu cadarnhaol.
Rhwng dydd Iau 3 Tachwedd a dydd Sadwrn 5 Tachwedd 2011, canolbwyntiodd swyddogion o’r unedau hyn eu hymdrechion ar dargedu gweithgarwch troseddol ar draws y sir, gyda phwyslais arbennig ar ardal Aman Tywi.
“Cynhaliwyd patrolau ar heolydd ar draws y sir, ond talwyd sylw arbennig i ardal Dyffryn Tywi yn dilyn byrgleriaethau diweddar yno,” meddai’r Rhingyll Ian Price o’r Uned Plismona’r Ffyrdd. “Roedd yn ymgyrch llwyddiannus, a datryswyd nifer o droseddau.
“Cawsom 14 trosedd lle yr oedd gyrwyr heb drwydded yrru neu yswiriant, a thair trosedd lle yr oedd gyrwyr heb MOT. Hefyd, atafaelwyd wyth cerbyd dan adran 165 o Ddeddf Traffig y Ffyrdd.
“Arestiwyd tri o bobl am yrru pan oedd gormod o alcohol yn eu cyrff, ac arestiwyd pump o bobl am droseddau cyffuriau. Cynorthwywyd swyddogion rhanbarthol gan y swyddogion gyda gwarantau chwilio gan arwain at dri o’r pum arést am gyffuriau.”
“Hefyd, ymdriniwyd â 27 trosedd traffig y ffyrdd gyda chosbau penodedig.
“Mae ymgyrchoedd a phatrolau amlwg rhagweithiol fel hyn yn atal troseddwyr rhag defnyddio’r ffyrdd ac yn sicrhau bod defnyddwyr ffyrdd yn ddiogel a chyfreithlon. Mae mwy o’r ymgyrchoedd hyn wedi’u trefnu ar gyfer y misoedd sydd i ddod.”
Ers cychwyn yr ymgyrch, nid oes unrhyw fyrgleriaethau wedi’u riportio yn adran Aman Tywi. Ar hyn o bryd, mae swyddogion yn cynyddu eu presenoldeb yn yr ardal gyda’r nos er mwyn ceisio atal troseddau pellach yn yr ardal hon.


