Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Ymchwilio i ddifrod troseddol ym Mhenygroes

Mae ymchwiliad ar waith i ddifrod troseddol a achoswyd i waliau allanol adeilad sy’n cael ei adnewyddu ym Mhenygroes.

Chwistrellwyd paent du ar waliau’r adeilad ar Heol Norton rhywbryd rhwng 4.30pm a 6.50pm ddydd Llun 7 Tachwedd.

“Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y digwyddiad hwn neu wedi gweld rhywbeth amheus, gofynnaf iddynt gysylltu â Gorsaf Heddlu Rhydaman ar 101,” meddai’r Rhingyll Teresa Ross.