Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Apêl am wybodaeth yn dilyn ymosodiad yn Felinfoel

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal yn dilyn ymosodiad ar ddau frawd yn Felinfoel am 9 o’r gloch nos Lun 12 Rhagfyr. Nid oedd rheswm dros yr ymosodiad meddai’r brodyr.                                                                                                                                                                                                                                                                                                                  

“Torrwyd asgwrn boch un o’r brodyr yn ystod y digwyddiad,” meddai’r Rhingyll Eddie Donnelly. “Dioddefodd y llall friwiau a chleisiau.”

“Mae’n debyg bod y digwyddiad wedi cymryd lle ger Bragdy Felinfoel a Heol Salem. Mae un o’r dynion wedi honni bod dau aelod o giang mawr wedi ymosod arno ef a’i frawd.

“Disgrifir un o’r dynion fel gŵr croenwyn, 19 neu 20 oed, tua 6’. Roedd o gorffolaeth fawr gyda gwallt wedi’i eillio. Roedd yn gwisgo cap pêl fas lliw glas y llynges gyda phig wen, hwdi gwyn gydag ysgrifen fân ar ardal y stumog, a thrwser lliw glas y llynges gyda streipiau gwyn ar yr ochrau.

“Disgrifir yr ail ddyn fel gŵr croenwyn, tua 5’8”, corffolaeth fain/canolig, rhwng 17 a 22 oed. Roedd ganddo wallt du cwta, ac roedd wedi’i shafio’n lân. Roedd yn gwisgo hwdi glas y llynges a glas golau.

“Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai’n helpu gyda’n hymholiadau gysylltu â gorsaf heddlu Felinfoel ar 101.”