Page Content Starts Here
Beic modur Honda wedi’i ddwyn o ardd yng Nghaerfyrddin
Mer 14 Rhag 2011
Mae beic modur Honda wedi’i ddwyn o ardd gefn yng Nghaerfyrddin.
Aed â’r Honda coch, rhif cofrestru H501 NOC, rhywbryd rhwng 11.45pm ar nos Sul 11 Rhagfyr 2011 a 3.00am ar ddydd Llun 12 Rhagfyr 2011.
Roedd y beic modur wedi’i ddiogelu â chadwyn a chlo clap yng ngardd gefn tŷ ar Stryd Cadifor, Caerfyrddin.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â PC Tom Grace yng ngorsaf heddlu Caerfyrddin ar 101.


