Bihafiwch adeg tymor y Nadolig!
Rhoddir rhybudd llym i loddestwyr sy’n dathlu’r Ŵyl mewn tafarndai a chlybiau ar draws Aberystwyth - bihafiwch neu cewch eich banio (Bob).
Mae Heddlu Dyfed-Powys a’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol leol wedi dod at ei gilydd er mwyn helpu i sicrhau bod y strydoedd yn ddiogel ar gyfer pobl sydd eisiau mwynhau hwyl yr ŵyl, ac na fydd trais sy’n gysylltiedig ag alcohol yn cael ei ddioddef.
Mae’r cynllun Bob yn galluogi trwyddedigion i weithio gyda phartneriaid megis yr heddlu i sicrhau nad yw’r nifer bychan sy’n camymddwyn yn cael mynediad i adeiladau.
Mae pobl sy’n cael eu dal yn creu helynt mewn un sefydliad yn wynebu cael eu gwahardd o sawl lleoliad arall ledled y sir am hyd at ddwy flynedd.
Meddai’r Arolygydd Rose Ann Lloyd, "Mae’r neges yn syml — bihafiwch neu cewch eich banio. Byddwn yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid dros gyfnod y Nadolig er mwyn helpu i atal digwyddiadau ac ymateb yn gyflym i achosion o drais.
“Ni ddioddefir trais nac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gwneir arestiadau lle bo’n briodol er mwyn sicrhau bod y rhan helaeth o bobl sy’n ymddwyn yn gyfrifol yn gallu mwynhau eu hunain mewn awyrgylch ddiogel.”


