Page Content Starts Here
Byrgleriaeth yn Swyddfa Bost Ceri
Mer 28 Rhag 2011
Mae Gorsaf Heddlu’r Drenewydd yn apelio am dystion mewn perthynas â byrgleriaeth yn Swyddfa Bost Ceri. Dygwyd swm sylweddol o arian ynghyd â chasgliad o anrhegion Nadolig.
Digwyddodd y fyrgleriaeth rhywbryd rhwng chwech o’r gloch nos Wener 22 Rhagfyr 2011 a dau o’r gloch fore dydd Gwener 23 Rhagfyr 2011.
Os ydych chi wedi gweld unrhyw un neu unrhyw gerbyd amheus yn ardal Ceri, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth mewn perthynas â’r digwyddiad hwn, galwch CID Y Drenewydd ar 101, neu galwch yr elusen annibynnol Taclo’r Tacle ar 0800 555111.


