Page Content Starts Here
Ceisio gwybodaeth am ddifrod i gar yn Aberhonddu
Mer 14 Rhag 2011
Ceisir tystion ar ôl i rywun neu rywrai anhysbys grafu tri phanel ar gar a oedd wedi’i barcio ar Stryd Morgannwg yn Aberhonddu.
Difrodwyd y car Citroen C3 du rhywbryd rhwng 8.30 a 12.30 ar ddydd Mercher 7 Rhagfyr.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth, cysylltwch â gorsaf heddlu Aberhonddu ar 101.


