Lladrad Disel Trefyglo
Yn ystod nos Fawrth 6 Rhagfyr 2011, gwnaeth rhywun neu rywrai anhysbys ddwyn hyd at 500 litr o ddisel o danc mewn lleoliad arunig yn Rhos y Meirch ger Trefyclo. Mae’n bosibl y defnyddiwyd cerbyd ynghyd â phympiau a phibau i fynd at y tanwydd hwn. Gyda’r gaeaf wedi cyrraedd a chost tanwydd yn parhau’n uchel, mae tanciau olew megis hwn yn darged ar gyfer lladron.
“Gofynnir i fusnesau, ffermydd, ac unrhyw un sydd â’u storfeydd tanwydd eu hun i fod yn arbennig o wyliadwrus a sicrhau eu bod yn cymryd pob cam posibl i ddiogelu eu cerbydau a’u tanwydd. Ceisiwch wneud ymwybyddiaeth diogelwch yn rhan o’ch diwrnod gwaith. Mae nifer o bethau y gellir eu gwneud er mwyn diogelu’ch eiddo, megis gosod goleuadau sy’n synhwyro symudiadau, sicrhau bod gennych gloeon da ar gyfer tanciau storio disel a chapiau gwrth seiffon y gellir eu cloi. Cuddiwch eich tanc olew fel nad ydych yn darged i ladron yn y lle cyntaf: os nad ydynt yn gallu ei weld, ni fyddant yn gwybod ei fod yno. Plannwch lwyni neu gosodwch ffensiau fel na fydd eich tanc mewn golwg - yn arbennig os ydych yn byw yn agos i’r ffordd. Os yw’ch eiddo’n fwy diarffordd, rhwystrwch lladron rhag cael mynediad i’ch eiddo drwy osod gatiau y gellir eu cloi a chynnal unrhyw ffensio ar hyd y terfyn. Gwiriwch lefel olew eich tanc yn rheolaidd. Byddwch yn arbennig o wyliadwrus ynghylch tanceri neu loriau mawr ger eich eiddo. Nodwch rifau cofrestru cerbydau sydd yn ymddangos yn amheus a’u riportio i’r heddlu. Lle bo’n bosibl, gosodwch oleuadau diogelwch sy’n edrych dros eich tanc a’r ardal gyfagos. Os yw’ch tanc mewn man sy’n agored i bawb. Ystyriwch ei symud i ardal neu adeilad sydd wedi’i ddiogelu’n well.”
Mae llawer mwy o wybodaeth ar gael ar y rhyngrwyd, ac mae Heddlu Dyfed-Powys yn hapus iawn i drafod ffyrdd o atal trosedd gydag unrhyw un sy’n pryderi. Os welsoch y disel hwn yn cael ei ddwyn, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai’n helpu i adnabod y rhai sy’n gyfrifol, fe’ch anogir i gysylltu â PC 407 Bill Cowan ar 101 os ydych yn galw o Gymru, neu 01267 222020 os ydych yn galw o’r tu allan i Gymru. Os ydych am aros yn ddienw, gallwch alw Taclo’r Tacle ar 0800 555111. Fel arall, anfonwch e-bost at PC Cowan ar bill.cowan@dyfed-powys.pnn.police.uk <mailto:bill.cowan@dyfed-powys.pnn.police.uk>


