Page Content Starts Here
Difrodi cwt hufen iâ
Iau 15 Rhag 2011
|
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i rywun ddifrodi’r cwt hufen iâ ym maes parcio traeth Llansteffan.
Ceisiodd rhywun ddefnyddio grym i agor y drws, gan achosi difrod i’r hanner gwaelod. Digwyddodd hyn rhywbryd dros nos rhwng 12 a 13 Rhagfyr.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth, gallant gysylltu â heddlu Caerfyrddin ar 101. |


