Digwyddiad amheus: Gyrrwr cerbyd du’n targedu plant ysgol
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion mewn perthynas â digwyddiadau’n ymwneud â cherbyd du bychan, o bosibl Renault Clio, yn ardal Aberystwyth.
Mae deiliaid y cerbyd wedi mynd at ferched ysgol ifanc o’r ddwy ysgol gyfun, mewn digwyddiadau ar wahân, gan awgrymu eu bod yn derbyn lifft wrthynt. Cododd hyn ddigon o ofn ar y merched i adael y lleoliad yn syth.
Dywedodd yr Arolygydd Rose Ann Lloyd, “Ar hyn o bryd, rydym yn siarad â nifer o ferched ysgol sydd wedi dod ymlaen mewn perthynas â digwyddiadau tebyg. Unwaith y byddwn wedi gorffen gwneud hyn, byddwn yn rhyddhau manylion pellach.
“Dymuna Heddlu Dyfed-Powys sicrhau’r gymuned eu bod yn defnyddio nifer o dechnegau traddodiadol ac arloesol er mwyn adnabod y cerbyd hwn a’i ddeiliaid, ac yn apelio arnynt i ddod ymlaen.”
Os ydych yn gweld cerbyd du’n gysylltiedig â gweithgarwch amheus yn ardal Aberystwyth, galwch Heddlu Dyfed-Powys ar 101.


