Diogelwch eich hun yn erbyn lladron
Yn dilyn nifer o fyrgleriaethau mewn siediau a garejys ar draws ardal Aman Tywi, mae swyddogion wedi cyhoeddi canllawiau a chyngor i atal eraill rhag dioddef trosedd.
“Rydym wedi gweld sawl achos yn ddiweddar, gydag wyth trosedd wedi’u cyflawni, yn bennaf mewn siediau ac adeiladau allanol eraill,” meddai’r Arolygydd Paul Williams. “Mae’r rhan fwyaf o’r troseddau hyn yn digwydd dros nos, ac yn hanner yr achosion, mae adeiladau wedi’u gadael heb eu diogelu. Mae’r troseddau hyn yn digwydd ar draws yr ardal gyfan – o Frynaman Uchaf i Lanymddyfri a Llandeilo.
“Mae’n werth i berchnogion tai gymryd rhai camau synhwyrol i ddiogelu eu hunain er mwyn osgoi colli eiddo a’r drafferth o fynd ar ôl cwmnïoedd yswiriant.
“Yn gyntaf oll, hoffwn ofyn i berchnogion tai fod yn arbennig o wyliadwrus a chysylltu â’r heddlu gydag unrhyw bryderon ynghylch pobl neu gerbydau amheus.”
Gall dilyn y camau syml canlynol hefyd helpu i wella diogelwch.
- Ceisiwch sicrhau ei bod hi’n edrych fel petai yna rywun adref - felly defnyddiwch amserydd ar oleuadau.
- Siaradwch â’ch cymdogion a gofynnwch iddynt gadw llygad ar eich eiddo os yw’n debygol y byddwch i ffwrdd am gyfnod.
- Os ydych yn disgwyl derbyn nwyddau i’ch cartref, trefnwch fod cymydog yn eu derbyn, neu eu bod yn cael eu gadael o’r golwg - nid ar garreg eich drws lle y maent yn hawdd eu gweld.
- Mae systemau larwm a theledu cylch cyfyng yn ffordd dda o atal byrgleriaid.
- Cadwch adeiladau allanol, siedau a garejys ar glo ac wedi’u diogelu.
- Bydd lluniau clir o unrhyw nwyddau gwerthfawr neu anghyffredin yn cynorthwyo ymchwiliad yr heddlu yn ogystal â hawliadau yswiriant.
- Gosodwch gloeon o safon dda ar ddrysau siediau.
“Yn y cyfamser, mae’n ymchwiliadau i’r byrgleriaethau hyn yn parhau. Bellach, mae wyth trosedd wedi’u riportio yn ein hardal,” meddai’r Arolygydd Williams. "Os oes gan unrhyw un wybodaeth a allai’n helpu, byddwn yn ddiolchgar petaent yn cysylltu â ni yng Ngorsaf Heddlu Rhydaman ar 101.”


