Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Dwyn ceffylau o dir ym Mlaenycoed

Mae ymchwiliadau’n cael eu cynnal yn dilyn adroddiad bod saith ceffyl wedi’u dwyn o dir ar Fferm Cwmcastell, Heol Blaenycoed, Caerfyrddin.  

Aed â’r ceffylau rhywbryd rhwng y 5ed a’r 10fed o Ragfyr.

Os oes unrhyw un yn gwybod ble mae’r ceffylau hyn, neu wedi gweld rhywbeth amheus yn yr ardal o gwmpas yr adeg honno, gofynnir iddynt gysylltu â’r heddlu yng Ngorsaf Heddlu Caerfyrddin ar 101.