Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Dyn yn derbyn gŵys i ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru heb sylw na gofal priodol.

Heddiw, mae dyn lleol 33 oed wedi derbyn gŵys i ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli ar gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru heb sylw na gofal priodol.

Bydd yn ymddangos o flaen ynadon ar ddydd Iau 12 Ionawr 2012.

Daw ei gŵys yn dilyn marwolaeth John Henry Tattersall, 45 oed, yn dilyn gwrthdrawiad traffig y ffyrdd ar ddydd Gwener 11 Mawrth 2011 ar heol yr A4138 rhwng Hendy a Thalyclun yn Sir Gaerfyrddin.