Heddlu’n rhybuddio ynghylch galwadau ‘Virtual PC Doctor’ ffug
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus ynghylch twyll ffôn soffistigedig lle y mae twyllwyr yn honni eu bod yn galw o gwmni ‘Virtual PC Doctor’ gan gynnig dileu unrhyw ffeiliau diangen neu ffeiliau sydd wedi eu llygru ar eu cyfrifiadur.
Mae’r twyllwyr yn cyfeirio dioddefwyr at ran o’u cyfrifiadur sy’n dangos cannoedd o wallau a rhybuddion yn y log Rhaglen – ac yna byddant yn ceisio cael mynediad i fanylion diogelwch.
Mae’n arferol i unrhyw gyfrifiadur Windows ddangos y gwallau hyn. Nid ydynt yn arwydd o ffeiliau wedi’u llygru, ac ni ddylid rhoi unrhyw fanylion, gan gynnwys manylion cerdyn, i’r cwmnïoedd ffug hyn.
Yn ogystal, nid yw Microsoft yn gwneud unrhyw alwadau oer i’ch helpu i drwsio’ch cyfrifiadur. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch diogelwch eich cyfrifiadur neu wrthfeirys, ewch â’ch cyfrifiadur at gyflenwr sydd ag enw da a fydd yn medru cael golwg arno.
Os ydych wedi rhoi manylion i un o’r cwmnïoedd hyn, canslwch bob cerdyn debyd, newidiwch gyfrineiriau e-bost/rhwydweithiau cymdeithasol (megis Facebook) a chyfrineiriau cyfrifon (ebay, Amazon).
Gall y cwmnïoedd ffug hyn osod meddalwedd er mwyn darllen eich cyfrineiriau a chael mynediad i’ch cyfrifiadur pryd bynnag y maent eisiau.
Dywedodd PC Nia Lewis, sy’n swyddog yn Llanbedr Pont Steffan, "Os oes gennych unrhyw amheuon am alwad ffôn oer, gofynnwch am enw’r cwmni a’i roi i mewn i beiriant chwilio er mwyn gwirio’i hygrededd neu i weld a yw wedi’i restri ymysg cwmnïoedd sydd wedi bod yn gysylltiedig â thwyll yn flaenorol.
"Os oes dal gennych amheuon am ba bynnag rheswm, peidiwch â gwneud busnes gyda nhw, peidiwch â rhoi unrhyw fanylion personol iddynt, a galwch yr heddlu’n syth ar 101 a/neu'r cwmni i’w riportio.”


