Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Heddlu’n ymchwilio i achos o ddifrod troseddol yng ngwesty’r Metropole, Llandrindod

Mae’r heddlu yn Llandrindod yn ymchwilio i achos o ddifrod troseddol yng ngwesty’r Metropole ar ôl i baenau o wydr mewn dwy uned arddangos, a oedd wedi’u gosod ar wal, gael eu malu

 Credir i’r difrod ddigwydd o gwmpas 12.25am ar ddydd Sul 11 Rhagfyr 2011. Credir i’r difrod gael ei achosi o ganlyniad i ffrae a ddigwyddodd yng nghoridor cefn y gwesty.

“Gofynnaf i unrhyw un a oedd yn y gwesty ar gyfer parti Nadolig ar nos Sadwrn 10 Rhagfyr, ac a allai fod â gwybodaeth am y digwyddiad, gysylltu â mi i drafod ymhellach,” meddai PC Anthea Ponting. “Gwelwyd menyw yn y coridor adeg y ffrae, a gofynnaf iddi gysylltu â mi gan ei fod yn bosibl bod ganddi wybodaeth bwysig ynghylch sut y digwyddodd y difrod.  

“Os oes gan unrhyw un wybodaeth mewn perthynas â’r drosedd hon - wedi gweld y difrod, yn gwybod pwy sy’n gyfrifol, wedi clywed rhywbeth amheus yn y gwesty, neu unrhyw wybodaeth berthnasol arall - gofynnaf iddynt gysylltu â mi ar yng Ngorsaf Heddlu Llandrindod ar 101, neu galwch yr elusen annibynnol Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.”