Page Content Starts Here
Heddlu’n ymchwilio i fyrgleriaethau yng Nghwmffrwd, Sir Gaerfyrddin
Mer 14 Rhag 2011
Mae ymchwiliadau’n cael eu cynnal i ddwy fyrgleriaeth a ddigwyddodd yng Nghwmffrwd rhwng y 1af a’r 8fed o Hydref 2011. Credir bod cysylltiad rhwng y troseddau hyn.
Targedwyd dau eiddo ar Heol Bolahaul o gwmpas yr adeg hon. Torrwyd i mewn i sied un eiddo, a garej y llall.
Ymysg yr eitemau a ddygwyd o un eiddo oedd llif gadwyn Husqvarna oren gwerth £200, dril De-walt melyn a du a oedd hefyd werth £200, a sandiwr Bosch gwyrdd gwerth £100.
O’r eiddo arall, dygwyd dwy lif gadwyn Stihl oren a chwipolchwr K'Archer. Gyda’i gilydd, tua £1400 yw gwerth yr eitemau hyn.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y byrgleriaethau, neu os ydych wedi cael cynnig prynu eitemau tebyg i hyn, cysylltwch â gorsaf heddlu Caerfyrddin ar 101.


