Os Dwyn Cewch Eich Gwahardd – Rhybudd masnachwyr Ystradgynlais i ladron
Mae tîm plismona bro Ystradgynlais a masnachwyr lleol wedi dod at ei gilydd er mwyn sefydlu cynllun o’r enw Os Dwyn Cewch Eich Gwahardd.
Bwriad y cynllun yw targedu siopladron yn yr ardal, a bydd unrhyw un sydd yn cael eu dal a’u herlyn am y drosedd nid yn unig yn cael eu gwahardd o’r siop ble y digwyddodd y drosedd, ond pob siop arall yn Ystradgynlais sy’n rhan o’r cynllun.
“Hyd yn hyn, mae un deg chwe busnes wedi ymuno â’r cynllun,” meddai PCSO Dan Garnell. “Mae busnesau lleol wedi croesawu’r ffaith bod rhywbeth yn cael ei wneud, ac mae masnachwyr yn gwerthfawrogi’r ffaith bod y cynllun hwn yn cael ei sefydlu.
“Nawr, rydym yn gobeithio bydd busnesau eraill hefyd yn ymuno â’r cynllun.”
Os oes unrhyw un yn dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i ymuno â’r cynllun, gallant gysylltu â PCSO Garnell yng ngorsaf heddlu Ystradgynlais ar 101.


