Page Content Starts Here
Riportio pecyn amheus yn swyddfeydd Cyngor Sir Powys
Iau 15 Rhag 2011
Mae ymholiadau’n cael eu cynnal wedi i becyn amheus gael ei riportio yn swyddfeydd Cyngor Sir Powys yn Llandrindod.
Derbyniodd yr heddlu’r alwad am 11.25 y bore hwn.
Yn fuan wedi hynny, er diogelwch, penderfynwyd gwacau’r adeilad.
“Mae’r pecyn nawr yn cael ei adfer yn ddiogel, a chynhelir ymholiadau er mwyn canfod o ble ddaeth y pecyn hwn, pwy a’i hanfonodd a pham,” meddai’r Prif Arolygydd Robyn Mason. “Cafodd neb unrhyw anaf o ganlyniad i’r digwyddiad hwn, ac rydym nawr yn gweithio tuag at gael pob dim yn ôl i normal mor fuan ag sy’n bosibl.”


