Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Sisyrnau tocio wedi’u dwyn o siop yng Nghaerfyrddin

Mae tua ugain siswrn tocio wedi’u dwyn o siop B&Q yng Nghaerfyrddin.

Mae’r sisyrnau tocio yn eithaf nodedig. Fiskar yw gwneuthuriad pob un ohonynt, ac maent yn ddu ac oren mewn lliw.

Cawsant eu dwyn o’r ardal arddangos rhywbryd ddydd Gwener 23 Rhagfyr.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth, neu os welsant unrhyw beth amheus yn y siop y diwrnod hwnnw, gofynnir iddynt gysylltu â Gorsaf Heddlu Caerfyrddin ar 101.