Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Yr Heddlu a’r Gwasanaethau Brys yn parhau i chwilio am unigolyn ar goll

Mae Heddlu Dyfed-Powys a’r gwasanaethau brys yn parhau i chwilio am David John Williams, 63, sydd wedi bod ar goll ers dydd Sadwrn 10 Rhagfyr 2011.

 

Riportiwyd Mr David John Williams fel unigolyn ar goll gan aelod o’r teulu am 10 o’r gloch y noson honno ar ôl iddo fethu â dychwelyd adref o Glwb Rygbi Castellnewydd Emlyn.

 

Dywedodd y Prif Arolygydd Martin Tavener, “Hoffwn ddiolch i aelodau’r cyhoedd sydd wedi rhoi gwybodaeth a chymorth mewn perthynas â’r ymchwiliad hwn hyd yn hyn – ond hoffwn ofyn iddynt beidio â chynorthwyo gyda’r chwiliad. 

 

“Ar hyn o bryd, mae lefel yr afon yn uchel iawn ac yn llifo’n gyflym, a gyda’r amgylchiadau tywydd, gall hyn fod yn beryglus iawn. Gwell fyddai ei adael i’r Gwasanaeth Tân ei reoli. Yn ogystal, mae’n Swyddogion Cyswllt Teuluol yn gweithio gyda’r teulu ac yn eu cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn.” 

 

Mae’r Heddlu’n arbennig o bryderus oherwydd ei oed, yr amser y mae Mr Williams wedi bod ar goll, a’r amgylchiadau tywydd oer a gwlyb.

 

Credir bod Mr Williams wedi gadael y clwb am oddeutu 7.30 y noson honno. Gwelodd tyst ef yn cerdded tuag at yr afon. Mae’r Heddlu wedi bod yn canolbwyntio ar y lleoliad hwnnw wrth iddynt chwilio amdano, gan ddefnyddio amryw o ddulliau chwilio gan gynnwys yr Uned Gŵn Arbenigol. 

 

Os oes unrhyw aelod o’r cyhoedd wedi gweld Mr Williams, neu os oes ganddynt wybodaeth am ei leoliad, galwch Heddlu Dyfed-Powys ar 101. 

 

  • Mae Mr Williams yn 63 oed ac yn byw yng Nghwmhiraeth ger Drefach Felindre.
  • Roedd yn gwisgo trwser tywyll, crys a thei a chot dywyll.
  • Roedd yn teithio ar droed.