Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Achosion o ddifrodi ceir yn Llanelli dan ymchwiliad

Difrodwyd oddeutu un ar ddeg cerbyd dros nos ar ddydd Nadolig/dydd Gŵyl San Steffan yn ardal Bigyn, Llanelli.

Mae rhywun wedi difrodi drychau ochr, ac mewn un achos, wedi torri sychwyr ffenestr flaen.

Digwyddodd hyn ar hyd Rhes San Pedr, Stryd Ann a Stryd Paddock yn ardal Bigyn, Llanelli.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth mewn perthynas â’r digwyddiadau hyn, gofynnir iddynt gysylltu â gorsaf heddlu Llanelli ar 101.