Arestio tri ar amheuaeth o gyflawni cyfres o fyrgleriaethau cefn gwlad
Mae heddlu Aberhonddu wedi arestio tri dyn o ardal Caerdydd ar amheuaeth o gyflawni byrgleriaethau yn ardaloedd gwledig Cleirwy a Thalgarth.
Arestiwyd y tri ar 10 Ionawr 2012.
Mae’r troseddwyr wedi’u cyhuddo. Mae dyn 20 oed eisoes wedi pledio’n euog i droseddau byrgleriaeth a lladrad, ac wedi’i ddedfrydu i 18 mis o garchar. Bydd y ddau ddyn arall, sy’n 21 a 24 oed, yn ymddangos gerbron llys yn eu tro.
“Cyflawnwyd y troseddau hyn yn ystod y dydd o eiddo gwag ac eiddo nad oedd yn wag,” meddai’r Ditectif Arolygydd Dave Guiney. “Dygwyd beic cwad ac offer trydanol, a chawsant eu hadfer yn ddiweddarach gan yr heddlu.
“Roedd y troseddwyr yn defnyddio fan Peugeot Expert ac yn ymweld â ffermydd. Honnir iddynt esgus eu bod eisiau prynu hen fatris.
“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i atgoffa pobl i fod yn wyliadwrus a riportio unrhyw gerbydau neu bobl amheus i’r heddlu.
“Rydym hefyd yn gweld rhai achosion o ddwyn beiciau cwad yn ddiweddar, felly dylai ffermwyr ystyried eu trefniadau diogelwch a sicrhau bod eu heiddo wedi’u cloi’n ddiogel neu’n cael eu cadw dan glo.”


