Arestio tri yn Burton yn dilyn achosion o ddwyn o gychod
Diolch i blismona effeithiol a rhagweithiol, mae tri dyn wedi’u harestio yn Burton yn dilyn achosion o ddwyn injans cychod ledled Sir Benfro.
Mae’r tri ohonynt o Latfia, ond yn byw yn ardal Llundain. Cawsant eu dal gyda’r eiddo gan swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys am 4:00am ar 13 Ionawr 2012.
Meddai’r Arolygydd Gareth Thomas, “Roedd yr arestiadau’n ganlyniad llwyddiannus i ymdrech fawr i dargedu troseddwyr o ardaloedd eraill sy’n dod i Sir Benfro er mwyn troseddu. Rydym yn rheolaidd yn anfon swyddogion
i gynorthwyo a chefnogi cymunedau ledled y sir, a dylai troseddwyr nodi nad
ydym yn darged hawdd. Hefyd, pan rydym yn dal y bobl hyn, gwnawn bopeth o fewn ein gallu i’w dwyn i gyfiawnder.
“Hoffwn hefyd sicrhau pobl Sir Benfro bod troseddau felly yn
ddigwyddiadau prin iawn. Serch hynny, rwy’n eich annog i fod ar eich gwyliadwriaeth ac i riportio unrhyw weithgareddau amheus i’r heddlu, gan nodi disgrifiad a manylion cofrestru a chyfeiriad teithio unrhyw gerbyd a ddefnyddir." Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i sicrhau bod y llwyddiannau diweddar o ran dal troseddwyr teithiol yn parhau.”
Yn ogystal, dymuna Heddlu Dyfed-Powys ofyn i berchnogion cychod wirio eu cwch gan fod ambell injan wedi’u hadfer ond heb eu hadnabod hyd yn hyn. Hefyd, mae’n bwysig sicrhau fod pobl yn cynnal trefniadau diogelwch.
Os hoffech gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys, galwch 101


