Bachgen yn marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic a char
Mae’r bachgen 14 oed a oedd yn gysylltiedig â gwrthdrawiad gyda char wrth gyffordd Penrhos rhwng Four Crosses ac Arddlin ar yr A483 wedi marw’r prynhawn hwn, dydd Gwener 6 Ionawr 2012.
Mae’r heddlu nawr yn edrych am unrhyw dystion a allai fod wedi gweld y bachgen, a oedd yn beicio gyda ffrind adeg y digwyddiad.
"Rydym yn chwilio am unrhyw un a welodd y bobl ifanc hyn yn beicio yn yr ardal ddoe o gwmpas amser y ddamwain, sef 4.40pm," meddai’r Rhingyll Sean Westlake o Uned Plismona’r Ffyrdd Canolbarth Cymru. "Rydym dal yn ceisio darganfod yn union beth ddigwyddodd, a gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth a allai fod gan y cyhoedd.
“Mae hwn yn adeg anodd iawn i’r teulu, ac rydym yn cydymdeimlo’n ddwys â nhw.”
Os oes gan unrhyw un wybodaeth sy’n berthnasol i’r ymholiadau, cysylltwch â gorsaf heddlu’r Drenewydd ar 101 os gwelwch chi’n dda.


