Bydd camera teledu cylch cyfyng newydd yn helpu i ddiogelu Porth Tywyn
MAE camera teledu cylch cyfyng newydd wedi ei osod ym Mharc Porth Tywyn.
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gâr sydd wedi cyllido'r camera ar gost o bron £10,000.
Daw hyn yn sgil cael cais gan yr heddlu a'r Cyngor Tref am osod camera ychwanegol yn y dref.
Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu'r heddlu yn y frwydr yn erbyn troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac ar ben hynny yn rhoi tawelwch meddwl i'r bobl leol drwy leddfu eu hofnau ynghylch dioddef trosedd.
Mae gan y dref ddau gamera teledu cylch cyfyng eisoes a bydd gosod un ychwanegol yn cynyddu'n sylweddol y llecynnau sydd dan sylw yn yr ardal.
Mae'r Cynghorwyr Sir Pat Jones a Stephen James wedi croesawu'r hwb hwn i'r gwaith atal troseddau yn y dref.
Dywedodd y Cynghorydd Jones: “Mae system teledu cylch cyfyng yn arf pwysig o ran atal pob math o droseddau yn ogystal ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cael camera arall i'r dref, ac rwyf yn siŵr fod y bobl leol yn falch hefyd gan y bydd hyn yn sicrhau bod y dref yn fwy diogel.”
Ychwanegodd y Cynghorydd James: “Does gennym ni ddim problem anferth o ran troseddu ym Mhorth Tywyn, ond fel sy'n wir am bob tref mae rhai materion yn codi, yn enwedig o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydym yn cydweithio â'r heddlu lleol a'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol er mwyn mynd i'r afael â'r materion hynny orau y gallwn, ac mae'r datblygiad hwn yn gam arall i'r cyfeiriad hwnnw.”
Yr ystafell rheoli systemau teledu cylch cyfyng yng Ngorsaf yr Heddlu yn Llanelli sy'n monitro'r camerâu ym Mhorth Tywyn. Mae'r gweithredwyr medrus sy'n monitro'r camerâu yn gallu gweld digwyddiadau wrth iddynt ddigwydd, ac yna'n gallu ymateb ar unwaith drwy roi gwybodaeth yn uniongyrchol i'w cydweithwyr yn yr heddlu. Mae modd defnyddio'r dystiolaeth yn y llys a bod angen. Yn ogystal treulia'r gweithredwyr dipyn o'u hamser yn chwilio am bobl neu gerbydau penodol ar gais yr heddlu. Pan nad oes digwyddiadau penodol sydd angen sylw ar y sgriniau, mae'r gweithredwyr yn cadw golwg mewn modd rhagweithiol ar y llecynnau sydd dan sylw gan y camerâu teledu cylch cyfyng er mwyn sicrhau bod pawb yn ddiogel.
Dywedodd yr Arolygydd James Davies: “Yn ddiamheuaeth mae teledu cylch cyfyng yn arf defnyddiol yn y frwydr barhaus yn erbyn troseddu, ac rwyf yn gobeithio y bydd pobl Porth Tywyn hyd yn oed yn fwy tawel eu meddyliau ynghylch diogelwch eu tref yn sgil y datblygiad diweddaraf hwn.”
Mae'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn cynnwys y Cyngor, yr heddlu, a'r gwasanaeth tân ac achub ynghyd â nifer o asiantaethau eraill, ac fe'i sefydlwyd i fynd i'r afael â throseddau ac anhrefn yn Sir Gaerfyrddin.
Meddai’r Cyng. Pam Palmer, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelwch Cymunedol: "Mae'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi ymrwymo i fynd i'r afael â throseddau ac anhrefn yn Sir Gaerfyrddin. Heb unrhyw amheuaeth mae cyfraniad teledu cylch cyfyng at leihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn anferth gan helpu i beri i'r cyhoedd deimlo'n ddiogel.
“Dim ond un arf ymhlith nifer yw teledu cylch cyfyng o ran gwneud Sir Gaerfyrddin yn lle mwy diogel i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef.”
PENNAWD: Yr Arolygydd James Davies gyda'r Cynghorwyr Pat Jones a Stephen James yn cael golwg ar y camera teledu cylch cyfyng newydd ym Mharc Porth Tywyn.


