Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Ceisio Dyn yn Dilyn Ymosodiad Rhyw Difrifol yn Llanelli

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i ymosodiad rhyw difrifol a ddigwyddodd mewn lôn ar Heol Capel Isaf, Llanelli.

Credir i’r ymosodiad ddigwydd am oddeutu 4.15am ddydd Sadwrn 21 Ionawr 2012 pan ymosodwyd ar ferch 17 oed wrth iddi gerdded adref ar ei phen ei hun ar ôl noson allan gyda ffrindiau. 

“Mae’r dioddefydd wedi helpu i greu llun CD-ffit o’r dyn a ymosododd arni.,” meddai’r Ditectif Arolygydd Gary Phillips. “Fe’i disgrifir fel dyn croenwyn a all fod yn ei ugeiniau. Mae ganddo wallt tywyll byr iawn.

“Dywedir fod ganddo wyneb ‘crwn’, gyda thrwyn hir. Ar adeg y digwyddiad, roedd yn gwisgo top lliw golau â hwd, a throwsus tywyll.

“Gofynnir i unrhyw un sy’n adnabod y dyn yn y CD-ffit, neu sydd â gwybodaeth mewn perthynas â’r digwyddiad hwn, i gysylltu â CID Llanelli ar 101.”