Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Ceisio lluniau a thystion yn dilyn damwain awyr yn y Trallwng

Mae ymchwilwyr sy’n ceisio canfod achos y ddamwain awyr ger Tre’r Llai yn y Trallwng yn apelio ar i unrhyw un a oedd allan yn tynnu lluniau yn yr ardal ar y pryd i gysylltu â nhw.

Bu farw dau o bobl yn y ddamwain awyr a ddigwyddodd ychydig cyn hanner dydd ar ddydd Mercher 18 Ionawr.

Piper PA31-325 model Navajo oedd yr awyren a oedd yn gysylltiedig â’r ddamwain, sy’n awyren adenydd sefydlog gydag injan ddwbl.

“Mae ymchwiliadau’n parhau i achos y drasiedi hon,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd  Greg Williams. “Rydym nawr yn gobeithio cael cymorth gan bobl a oedd yn yr ardal ar y pryd rhwng 11am a 11.30am. Hoffem glywed wrthynt. Hefyd, hoffem glywed gan unrhyw un a allai fod wedi clywed yr awyren yn hedfan uwchben o gwmpas ar amser hynny.

“Gellir cysylltu â swyddogion CID yng Ngorsaf Heddlu’r Trallwng ar 101.”