Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Cyfarfodydd PACT yn Llanelli

Mae swyddogion sy’n gweithio yn Llanelli yn chwilio am fwy o aelodau’r cyhoedd i ddod i gyfarfod â swyddogion yn eu cyfarfod deufisol yn Neuadd y Dref.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar nos Fercher 8 Chwefror am 6.30 o’r gloch. Mae’r cyfarfod yn agored i breswylwyr wardiau Hengoed, Elli a Lliedi. Mae’r wardiau hyn yn cwmpasu ardaloedd Sandy, Ffwrnais, Pwll, Llanerch, Parc Howard a chanol y dref.

“Os oes gennych broblem rydych angen ei thrafod â swyddog, yna efallai bod y cyfarfod PACT yn gyfle da i chi gael cyngor,” meddai Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu Dan Brown. “Ystyr PACT yw Partneriaid a Chymunedau Gyda’i Gilydd a gall materion amrywio o bryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol i barcio, sŵn a goryrru.

“Hefyd, mae’n gyfle i chi gwrdd â’r swyddogion sy’n patrolio ardaloedd canol y dref a siarad â nhw wyneb yn wyneb.”