Page Content Starts Here
Cynnal ymchwiliad i fyrgleriaeth tŷ cyhoeddus
Mer 04 Ion 2012
Mae swyddogion CID Aberhonddu yn ymchwilio ar ôl i ymwthwyr gael eu haflonyddu mewn tafarn ym mhentref Llyswen yn ystod oriau man y bore ar Nos Galan.
Seiniodd perchnogion tafarn Pen y Bont rybudd am 2.30am.
“Mae swyddogion CID Aberhonddu’n parhau i gynnal ymchwiliad,” meddai’r Ditectif Arolygydd Dave Guiney. “Rydym yn awyddus i olrhain unrhyw dystion a allai fod â gwybodaeth berthnasol.
“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i atgoffa trwyddedigion am bwysigrwydd adolygu eu trefniadau diogelwch.
“Yn ogystal, dymunaf atgoffa aelodau’r cyhoedd i riportio unrhyw ddigwyddiadau amheus drwy alw 101, neu 999 os yw’n argyfwng.”


