Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Damwain rhwng car a beic

Mae heddlu’r Drenewydd yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic a char wrth gyffordd Penrhos rhwng Four Crosses ac Arddlin ar heol yr A483. Caewyd y ffordd am chwe awr yn dilyn y ddamwain, a ddigwyddodd am 4.40pm ar ddydd Iau 5 Ionawr.

"Cawsom alwad i ddweud bod gwrthdrawiad traffig y ffyrdd wedi digwydd rhwng car Volkswagen Polo du a beic BMX a oedd yn cael ei reidio gan fachgen pedair ar ddeg mlwydd oed,” meddai’r Rhingyll Sean Westlake o Uned Plismona’r Ffyrdd Canolbarth Cymru. "Aed â’r bachgen i Ysbyty Brenhinol Amwythig yn gyntaf, cyn iddo gael ei symud i Ysbyty Plant Birmingham. Dywed bod ei gyflwr yn ddifrifol.

“Gofynnaf i unrhyw aelod o’r cyhoedd a allai fod wedi gweld y ddamwain yn digwydd, neu sydd â gwybodaeth berthnasol, gysylltu â Gorsaf Heddlu’r Drenewydd ar 101.