Page Content Starts Here
Dwyn trelar defaid o du allan i dŷ
Llun 23 Ion 2012
Mae trelar gwerth £700 a ddefnyddiwyd i gludo defaid wedi’i ddwyn o du allan i eiddo ym Mlaenycoed, Sir Caerfyrddin.
Aed â’r trelar rhywbryd rhwng 10 o’r gloch ar nos Sadwrn 14 Ionawr a 7 o’r gloch ar fore dydd Sul 15 Ionawr.
Nid oedd y trelar CLH ynghlwm wrth unrhyw gerbyd ar y pryd.
Os welodd unrhyw un rhywbeth amheus yn yr ardal o gwmpas yr adeg honno, neu os ydych chi wedi cael cynnig prynu trelar tebyg, mae’r heddlu am glywed wrthych. Gellir cysylltu â swyddogion yng ngorsaf heddlu Caerfyrddin ar 101.


