Enwi dioddefwyr damwain awyr Y Trallwng
Mae’r heddlu wedi cadarnhau enwau’r ddau ddyn a fu farw yn y ddamwain awyr a ddigwyddodd yn ardal Tre’r Llai, y Trallwng, ddydd Mercher 18 Ionawr.
Roedd Bob Jones, 60 oed, yn ddyn busnes uchel ei barch. Bu farw ynghyd â’r peilot profiadol Steve Carr, 55 oed o Ruthun.
Mae teuluoedd y ddau ddyn wedi’u hysbysu.
Mewn teyrnged i Mr Jones, dywedodd ei deulu:
Mae Linda a'r teulu wedi eu tristau a'u syfrdanu gan farwolaeth sydyn Bob Jones. Roedd yn ŵr, tad a chyfaill annwyl. Roedd yn angerddol am hedfan, ac yn uchel ei barch yng nghymuned canolbarth Cymru a thu hwnt. Hoffai'r teulu nawr gael llonydd i ymdopi gyda'u colled.
Dywedodd teulu Mr Carr:
Mae teulu a chyfeillion Steve wedi eu chwalu gan y newyddion. Roeddem yn ei garu ac fe fydd colled enfawr ar ei ôl.
Nid oes geiriau i ddisgrifio ei rinweddau fel tad cariadus a ffyddlon, gwr, brawd a chyfaill.
Mae ein byd yn dlotach o lawer o'i golli.
Mae'r teulu yn galaru, ac yn dymuno llonydd i wneud hynny'n breifat.


