Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Erialau wedi’u dwyn o geir yn Aberhonddu

Mae chwe erial wedi’u dwyn o gerbydau a oedd wedi’u parcio yn ardal Uplands, Aberhonddu yn ystod y nos ar Nos Wener 23 Rhagfyr/bore Sadwrn 24 Rhagfyr 2011. 

Datgysylltwyd yr erialau o’u gwaelodion ar doeon y cerbydau pan oeddynt wedi’u parcio heb ofalydd y tu allan i gartrefi’r perchnogion.

Os welodd rhywun unrhyw beth amheus yn yr ardal hon ar y noson dan sylw, mae’r heddlu eisiau clywed wrthych. Gellir cysylltu â swyddogion yng ngorsaf heddlu Aberhonddu ar 101.