Gwrthdrawiad Traffig y Ffyrdd yn Nhregynon, Powys 19.01.12
Mae Uned Plismona’r Ffyrdd Canolbarth Cymru’n ymchwilio i wrthdrawiad traffig y ffyrdd difrifol a ddigwyddodd am oddeutu 7.15 o’r gloch ar nos Iau 19 Ionawr 2012 ar ffordd y B4389 o’r Drenewydd i Dregynon wrth y groesffordd ar yr heol o Fwlch-y-ffridd i Fetws Cedewain.
Roedd Vauxhall Astra du a Peugeot 306 glas yn gysylltiedig â’r ddamwain. Roedd un gyrrwr yn gaeth i’w gerbyd am gyfnod, a dioddefodd anafiadau difrifol. Dioddefodd teithiwr o’r cerbyd arall anafiadau eithaf difrifol. Cludwyd pedwar o bobl a ddioddefodd anafiadau i Ysbyty Brenhinol yr Amwythig. Dywedwyd bod cyflwr y ddau a gafodd yr anafiadau mwyaf yn sefydlog ar hyn o bryd.
Gofynnir i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad hwn, neu sydd â gwybodaeth a allai fod o gymorth, gysylltu â PC Wright 81 yng ngorsaf heddlu’r Drenewydd ar 101. Fel arall, gallwch alw Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.


