Heddlu’n annog gwyliadwriaeth yn dilyn Byrgleriaethau Carafán
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn annog aelodau’r cyhoedd i fod yn wyliadwrus yn dilyn cyfres o fyrgleriaethau o garafanau statig yng Ngheredigion.
Cyflawnwyd y byrgleriaethau hyn o feysydd carafán rhwng Aberystwyth ac Aberporth, gan gynnwys Quay West, Ocean Heights a Helyg Fach.
Dywedodd PC Pat Jalloal o’r Adran Diogelwch Cymunedol yn Aberystwyth bod “byrgleriaid yn gweld cyfle – felly mae’n bwysig nad ydych yn gadael offer drud, yn arbennig teledu sgrin fflat a gemau cyfrifiadurol, yn y garafán. Os yw o werth i chi, mi fydd o werth i rywun arall”.
Tynnir sylw at yr alwad i fod yn wyliadwrus yn dilyn nifer o ddioddefwyr yn riportio byrgleriaethau a ddigwyddodd rhwng mis Tachwedd 2011 a mis Ionawr 2012.
Mae angen cefnogaeth y cyhoedd arnom i geisio adnabod a dal y troseddwyr. Bydd hynny’n helpu i leihau nifer y math hwn o drosedd yng Ngheredigion.
Mae gan Dimoedd Plismona Bro Ceredigion bosteri y gellir eu harddangos yn y carafanau, yn ogystal â thaflenni gyda chyngor atal trosedd.
Maent ar gael i bawb sy’n berchen ar garafán neu faes carafanau a gellir eu harddangos yn y ffenestri er mwyn tynnu sylw at y ffaith nad oes eiddo gwerthfawr y tu fewn.
Dilynwch y camau diogelu syml canlynol. Gall wneud gwir wahaniaeth o ran atal byrgleriaid:
- Pan nad yw carafán yn cael ei ddefnyddio, ewch â phob eitem werthfawr oddi yno, gan gynnwys pob teclyn trydanol.
- Gadewch ddrysau cypyrddau a llenni ar agor gan y gallai carafán sydd yn amlwg yn wag atal lladron.
- Gosodwch glo diogel ar y drws, a gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ddefnyddio.
- Gosodwch larwm dibynadwy a chofiwch ei droi ymlaen pryd bynnag yr ydych yn gadael eich carafán, hyd yn oed os ydych ond yn ei adael am amser byr.
- Caewch ddrysau, ffenestri ac unrhyw ffenestr to bob tro yr ydych yn gadael eich carafán.
- Marciwch bob eiddo gwerthfawr yn y garafán â nod diogelwch gan ei fod yn cynorthwyo’r Heddlu o ran adnabod a dychwelyd cynnwys i’w perchnogion, a gall atal lladron. Ar hyn o bryd, mae yna nifer o systemau codio fforensig hylyfol ar gael, sy’n wych ar gyfer atal lladron.
Mae’r heddlu’n ceisio gwybodaeth er mwyn adnabod unrhyw un sy’n gysylltiedig â gwerthu nwyddau sydd wedi’u dwyn gan gynnwys teledu sgrin fflat, gliniaduron neu gemau cyfrifiadurol.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101 a gofyn am CID Ceredigion, neu Taclo’r Tacle ar 0800555111
Am ragor o gyngor diogelwch y cartref, galwch eich Tîm Plismona Bro lleol: - Ceredigion 101


