Heddlu’n apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad difrifol
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth gan y cyhoedd yn dilyn ymosodiad difrifol lle y curwyd y dioddefydd yn ddidrugaredd cyn cael ei daflu ar linell rheilffordd yn Sir Benfro dros y penwythnos.
Ymosodwyd ar y dyn 28 oed yn ardal Lôn Ryelands, Cilgeti, ac yng nghyffiniau Gorsaf Rheilffordd Cilgeti, rhywbryd rhwng 2am a 7am ddydd Sul 23 Ionawr.
Cyn yr ymosodiad, roedd yr ymosodwr yn eistedd ar fainc gyferbyn â siop sglodion y dref, lle y siaradodd â’r dioddefydd. Disgrifir yr ymosodwr fel dyn croenwyn, tua 5’8” o daldra, yn ei ugeiniau cynnar. Mae’r dyn o gorffolaeth fain, gyda gwallt tywyll sydd wedi’i fflatio â gel. Roedd yn gwisgo top gwyn a jîns glas.
Yn dilyn yr ymosodiad, cerddodd yr ymosodwr i ffwrdd tuag at gyfeiriad Ysgol Stepaside.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Shane Williams, “Roedd yr ymosodiad hwn yn arbennig o ffyrnig ac mae’r dioddefydd yn gwella gyda chefnogaeth yr heddlu ac asiantaethau eraill.
“Rwy’n apelio ar i unrhyw un a oedd yng Nghilgeti, yn arbennig yng nghyffiniau’r siop sglodion, Lôn Ryelands, neu’r Orsaf Rheilffordd, ar ddydd Sul 23 Ionawr rhwng 2am a 7am, i gysylltu â’r heddlu mor fuan ag sy’n bosibl.
“Rwyf hefyd yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld yr unigolyn hwn yn cerdded o gwmpas yr ardal, yn eistedd ar fainc, neu a allai fod wedi gweld yr ymosodiad yn digwydd neu glywed am y digwyddiad drwy deulu neu ffrindiau, i gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys yn syth ar 101, neu galwch Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.”
“Er bod yr ymosodiad hwn yn un difrifol, hoffwn sicrhau’r cyhoedd bod digwyddiadau o’r fath yn brin yn Sir Benfro, ac mae ystafell ymchwiliad wedi’i sefydlu yng ngorsaf heddlu Hwlffordd.”


