Heddlu’n arestio dyn yn dilyn ymosodiad difrifol yng Nghilgeti
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio dyn 22 oed mewn perthynas â’r ymosodiad difrifol a ddigwyddodd yng Nghilgeti yn ystod oriau man y bore ar ddydd Sul 22 Ionawr.
Ymosodwyd ar y dyn 28 oed yn ardal Lôn Ryelands, Cilgeti, ac yng nghyffiniau Gorsaf Rheilffordd Cilgeti, rhywbryd rhwng 2am a 7am ddydd Sul 23 Ionawr. Yn ystod yr ymosodiad, taflwyd y dioddefydd ar linell rheilffordd.
Yn dilyn yr arést, mae’r heddlu wedi dweud ei bod hi’n hanfodol bwysig eu bod yn clywed gan dystion a allai fod â gwybodaeth bwysig.
A welsoch chi’r drosedd neu unrhyw weithgarwch amheus?
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Shane Williams, “Roedd yr ymosodiad hwn yn arbennig o ffyrnig ac mae’r dioddefydd yn gwella gyda chefnogaeth yr heddlu ac asiantaethau eraill. Rwy’n apelio ar i unrhyw un a oedd yng Nghilgeti, yn arbennig cyffiniau’r siop sglodion a Lôn Ryelands ar y pryd, i gysylltu â’r heddlu. Rwyf hefyd yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld yr ymosodiad, neu wedi clywed amdano gan deulu neu ffrindiau, i gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys yn syth ar 101.”
Dymuna Heddlu Dyfed-Powys sicrhau’r cyhoedd bod digwyddiadau o’r fath yn brin yn Sir Benfro, ac mae ystafell ymchwiliad wedi’i sefydlu yng ngorsaf heddlu Hwlffordd.”
Os hoffech roi gwybodaeth yn ddienw, medrwch gysylltu â’r elusen annibynnol Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.
Medrwch alw Heddlu Dyfed-Powys ar: 101


