Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Heddlu’n cyhuddo dyn yn achos llofruddiaeth Llanllwni

Gall Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau eu bod wedi cyhuddo Darren Martin Jackson, 26 oed, o lofruddio Irene Lawless, 67 oed. Cafwyd hyd i’w chorff yn ei chartref yn Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, ar ddydd Llun 23 Ionawr 2012.

Dymuna’r Ditectif Uwch-arolygydd Pam Kelly ddiolch i gymuned fechan Llanllwni am eu hamynedd a’u cefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad hwn.

Bydd Jackson, sydd o Gaint, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener 27 Ionawr 2012.