Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Heddlu’n rhybuddio ynghylch twyll diogelwch cyfrifiaduron

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus ynghylch twyll ffôn soffistigedig lle y mae twyllwyr yn honni eu bod yn galw o sefydliadau a all drwsio neu ddileu unrhyw ffeiliau diangen neu ffeiliau sydd wedi eu llygru ar eu cyfrifiadur.

 

Mae’r twyllwyr yn cyfeirio’r dioddefydd at ran benodol o’r cyfrifiadur, ac yna’n ceisio cael mynediad at fanylion diogelwch.

 

Nid yw cwmnïoedd TG na Chyfathrebu Symudol a Statig yn gwneud galwadau oer i’ch helpu i drwsio’ch cyfrifiadur. Felly, os oes unrhyw un yn eich galw gan honni eu bod yn gweithio i gwmni Microsoft neu ddarparwr ffôn symudol ac yn gofyn am gael mynediad i’ch cyfrifiadur, dylech orffen yr alwad yn syth.

 

Dywedodd yr Arolygydd Alan Millichip, “Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch diogelwch eich cyfrifiadur neu wrthfeirys, ewch â’ch cyfrifiadur at gyflenwr sydd ag enw da a fydd yn medru cael golwg arno. Dylech byth rhoi manylion diogelwch neu fanylion cerdyn dros y ffôn. Yn ogystal â chodi tâl arnoch am waith na wnaethpwyd neu sydd heb ei orffen, mae’r cwmnïoedd ffug hyn yn medru gosod meddalwedd i ddarllen eich cyfrineiriau a chael mynediad i’ch cyfrifiadur o bell pryd bynnag y maent yn dymuno.

 

“Rwy’n annog aelodau’r cyhoedd i wrthod unrhyw ymgysylltiad â galwyr oer a pheidio â dioddef y math hwn o drosedd. Mae’n anodd iawn olrhain y troseddwyr hyn gan fod y rhan fwyaf ohonynt yn gweithredu o dramor.”

 

Gallwch gael cymorth gan Ymgynghorydd Niwsans BT drwy alw heibio i: http://bt.custhelp.com/app/answers/detail/a_id/9084/~/how-can-i-stop-or-prevent-malicious,-nuisance-and-silent-calls%3F

 

Os ydych yn dioddef y math hwn o drosedd, galwch Heddlu Dyfed-Powys ar 101.