Page Content Starts Here
Llofruddiaeth Llanllwni: Mwy o amser i holi
Iau 26 Ion 2012
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i lofruddiaeth Irene Lawless, 67 oed. Cafwyd hyd i’w chorff yn ei chartref yn Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, ddydd Llun 23 Ionawr 2012.
Arestiwyd dyn 26 oed yn ardal Caint ar 24 Ionawr ar amheuaeth o lofruddio. Ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Hwlffordd heddiw lle y caniatawyd gwarant ar gyfer ei gadw am gyfnod pellach.
Os oes gan aelodau’r cyhoedd wybodaeth a allai gynorthwyo’r ymchwiliad, fe’u hanogwn i ddod ymlaen drwy alw 101.


