Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Llwyni draenen wen wedi’u dwyn o berth a oedd newydd ei phlannu

Mae llwyni draenen wen ifainc gwerth cannoedd o bunnoedd wedi’u dwyn o berth a oedd newydd ei phlannu ger Llanddowror.

Tynnwyd hyd at 96 o blanhigion rhywbryd rhwng noswyl Nadolig a dydd Mercher 18 Ionawr 2012.

“Mae’n debyg bod rhywun wedi dod yma i berth ar ochr y ffordd ac wedi tynnu tua 96 llwyn draenen wen ifanc a mynd â nhw,” meddai’r Rhingyll “Mae’n mynd i gostio cwpwl o gannoedd o bunnoedd, os nad mwy, i osod rhai newydd yn eu lle.

“Os oes rhywun wedi gweld unrhyw beth, gofynnaf iddynt gysylltu, yn ogystal ag unrhyw un a allai fod wedi cael cynnig prynu planhigion o’r fath. Os oes gennych wybodaeth a allai fod o gymorth, cysylltwch â’r heddlu yng Nghaerfyrddin ar 101.”