Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Modrwyon aur wedi’u dwyn o siop hen bethau yn y Trallwng.

Cafodd tair modrwy aur eu dwyn o siop hen bethau yn y Trallwng rhywbryd rhwng 10am a hanner dydd ar ddydd Iau 19 Ionawr 2012.

Aed â’r ddwy fodrwy aur melyn a’r un fodrwy aur gwyn o gabinet gwydr yn siop Lamplight Antiques ar Boot Street.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu sy’n gwybod pwy sy’n gyfrifol, i gysylltu â PC Mike Clark yng Ngorsaf Heddlu’r Trallwng ar 101.