Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Olew wedi’i ddwyn o danc yn Sanclêr

Mae tua 200 litr o olew gwresogi gwerth £140 wedi’i ddwyn o danc storio allanol ar fferm yn Sanclêr.

Digwyddodd y lladrad rhywbryd rhwng 2pm ddydd Gwener 13 Ionawr a 2pm ddydd Mawrth 17 Ionawr ar fferm ychydig y tu allan i’r pentref ger garej petrol Forge.

“Rydym yn chwilio am wybodaeth ynghylch y drosedd hon ac os welodd rhywun unrhyw beth amheus yn yr ardal hon o gwmpas y dyddiadau penodedig, gofynnaf iddynt gysylltu os gwelwch chi’n dda,” meddai PC Martin Skinner. “Hefyd, hoffwn atgoffa pobl i geisio cymryd camau i ddiogelu eu cyflenwadau olew.

“Ystyriwch guddio’r tanciau gydag adeiladwaith solet neu ffensio pren. Ac os na fedrwch fforddio gwneud hyn, ystyriwch wella’r goleuni yn yr ardal drwy osod golau diogelwch o bosibl.

“Yn fwy na dim, byddwch yn ymwybodol o unrhyw gerbydau amheus yn eich ardal a pheidiwch ag anghofio riportio unrhyw weithgarwch amheus i’r heddlu. Gallwch gysylltu â ni yng ngorsaf heddlu Caerfyrddin ar 101.”