Prosiect ieuenctid yn Llanandras yn derbyn grant o £500 gan Heddlu Dyfed-Powys
Barrie Meredith yn derbyn siec ar ran Prosiect Ieuenctid Llanandras, gyda PC Fraser Scott a Trish Dixon, swyddog gyda’r Tîm Rheoli Bro.
Cyflwynwyd grant o £500 i Brosiect Ieuenctid Llanandras i gynorthwyo gyda’r gost o gynnal ei gyfleuster ar Stryd Hereford.
Daeth yr arian o gronfa ysgogi'r heddlu. Ariennir y gronfa hon gan arian sydd wedi ei adfer o elw a wnaed gan droseddwyr sydd wedi eu dyfarnu’n euog, sydd yna’n cael ei fuddsoddi yn y gymuned.
Mae Prosiect Ieuenctid Llanandras yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr, ac yn defnyddio’r Hen Ysgol ar Stryd Hereford er mwyn cynnal Clwb Ieuenctid.
Ers iddo agor ym mis Medi, mae’r prosiect wedi’i gynnal bob nos Fawrth a nos Iau o 7 – 9 o’r gloch.
“Mae’r prosiect hwn yn llawn haeddu arian o’r gronfa gan mai ei phwrpas yw rhoi’r elw a wnaed o droseddau yn ôl i’r gymuned er lles y gymuned,” meddai PC Trish Dixon o dîm rheoli bro lleol Llanandras. “Mae’r prosiect yn cynnig gweithgareddau rheolaidd ar ddwy noson o’r wythnos, a hefyd yn cynnal cyrsiau a theithiau i lefydd o ddiddordeb.
“Ariennir y prosiect gan arian a godir lleol a grantiau. Dyma pam y mae grantiau fel hyn mor bwysig.”
Mae’r bobl sydd y tu ôl i’r prosiect hwn yn falch o’r gefnogaeth.
“Mae pob un ohonom yn ddiolchgar dros ben,” meddai James Tennant-Eyles, Cadeirydd y Prosiect. “Bydd o gymorth hanfodol wrth redeg y prosiect.
“Sefydliad gwirfoddol ydym ni, ac rydym yn ddibynnol iawn ar ein gweithwyr ieuenctid gwirfoddol sy’n goruchwylio’r sesiynau. Diolchaf iddynt am eu cefnogaeth arbennig.
“Ond rydym o hyd yn chwilio am ragor o wirfoddolwyr, felly os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn rhoi awr neu ddwy yr wythnos, cysylltwch â mi ar 01544 267363.”


