Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Ymosodiad rhyw Capel Isaf – ceisio tystion

Mae heddlu sy’n ymchwilio i honiadau o ymosodiad rhyw difrifol yn erbyn merch 17 oed yn apelio ar i unrhyw un a allai fod wedi gweld y ferch i ddod ymlaen.

“Rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi gweld y ferch ifanc yn cerdded ar hyd Heol Capel Isaf, ger yr orsaf betrol rhwng 4am a 4.30am fore Sul,” meddai’r Ditectif Arolygydd Greg Williams. “Yn arbennig, hoffem ddod o hyd i fenyw ifanc a welwyd yn siarad â hi yn yr orsaf betrol.

“Mae’n bosibl fod y fenyw wedi bod yn teithio mewn car Ford Focus lliw Bwrgwyn gyda grŵp o ddynion ifainc. Nid yw’r bobl hyn yn gysylltiedig â'r digwyddiad, ond efallai bod ganddynt wybodaeth bwysig a allai cynorthwyo swyddogion.

“Mae ein hymholiadau i’r digwyddiad hwn yn parhau, ac mae swyddogion sydd wedi eu hyfforddi’n arbennig yn rhoi cymorth i’r dioddefydd.

“Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â swyddogion CID yn Llanelli ar 101.”