Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Apêl am dystion a gwybodaeth yn dilyn difrod troseddol yn y Trallwng

Mae heddlu’r Trallwng yn ymchwilio i achos o ddifrod troseddol a ddigwyddodd rhwng 6.30pm ar nos Wener 27 Ionawr a 11.00am ar ddydd Sadwrn 28 Ionawr.  

Mae rhywun neu rywrai anhysbys wedi crafu Volkswagen Golf VRM DV60 KXL lliw glas tywyll ar hyd yr ochr allan gydag offer anhysbys.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu sy’n gwybod pwy sy’n gyfrifol, i gysylltu â PC 223 Mike Clark yng ngorsaf heddlu’r Trallwng ar 101.