Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Apêl am wybodaeth ar ôl difrod i gerbyd

Am 9pm yr hwyr ar 17 Ionawr, 2012, daethpwyd ar draws dyn oedd wrthi'n chwilio trwy gerbyd oedd wedi'i barcio ar ddreif yn Heol Bronwydd, Caerfyrddin.

Aelod o'r cyhoedd a ddaeth ar ei draws. Ni ddygwyd dim o'r cerbyd, oedd wedi'i adael heb ei gloi.

Roedd ail ddyn gydag e, a rhedon nhw i ffwrdd tuag at Fronwydd.

Disgrifiwyd y dyn a welwyd yn y cerbyd fel dyn gwyn, gyda gwallt golau, ac yn gwisgo dillad tywyll. Mae'n bosib mai 'hoodie' oedd ei wisg, a dynnwyd i fyny ganddo wrth iddo adael; a dywedwyd ei fod ychydig yn dalach er yn llai cydnerth na'r dyn arall.

Yn ôl y disgrifiad, mae'r ail ddyn yn wyn, rhwng 5'10" a 5'11", yn fyrdew, a chanddo wallt byr, tywyll, anniben. Mae e'n ddi-farf, ac roedd yn gwisgo siwmper dywyll gyda sip neu gardigan dywyll. O dan hynny roedd yn gwisgo rhywbeth gwyn uwchben jîns glas, ac roedd yn siarad ar ei ffôn symudol wrth gerdded heibio.

Gofynnir i unrhyw un a welodd rywbeth o gwmpas yr amser hwnnw, neu a allai fod wedi gweld rhywun yn cyfateb i'r disgrifiadau hyn, gysylltu â'r heddlu ar 101.

Hefyd, hoffai'r heddlu glywed gan unrhyw un sydd wedi cael profiad tebyg ond heb ei riportio.

Police would also like to hear from anyone who’s experienced something similar but not reported it.